POBL ANABL A BREXIT

y prosiect

Mae “Pobl Anabl a Brexit” yn gymuned Cymru-gyfan sy’n ymghynghori ar effeithiau Brexit ar sefydliadau pobl anabl a’n haelodau. Teithiom ledled y wlad i ofyn am farn pobl anabl, am eu pryderon a’u gobeithion am y dyfodol ac am y tirlun ôl-Brexit, yn casglu adnoddau a chyngor arbenigol er mwyn ateb eu pryderon. Defnyddiwch y wefan hon er mwyn gweld darlithoedd, fideos hygyrch a dolenni cyswllt at sefydliadau gallent eich helpu gyda’ch ymholiad penodol.

CYFLWYNIADAU

Gwnaethom wahodd arbenigwyr cymdeithas sifil i rannu eu mewnwelediadau gyda'n aelodaeth ledled Cymru, ac rydym wedi eu recordio er mwyn i chi gael gafael arnynt yn ddiweddarach. Ewch i'n sianel YouTube am ragor o wybodaeth am sut i fod yn barod am yr hyn sydd o'ch blaenau.

FIDEOS ESBONIO

Rydym wedi casglu'r holl wybodaeth ddiweddaraf gan y llywodraeth ac NGOs, ac wedi creu cyfres o fideos hygyrch yn cynnwys cyfieithiadau BSL, fel bod ein holl aelodau yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf.

ADNODDAU

Rydym wedi casglu dolenni cyswllt i'r prif sefydliadau sy'n ymdrin â pholisi, dadansoddi a chymorth yn ymwneud â Brexit. Dilynwch y dolenni o dan y tudalennau fideo i gysylltu â rhywun gall ymdrin â'ch cwestiwn yn hyderus.

CYNGOR UNIONGYRCHOL

Rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiwn yn ymwneud â Brexit, neu eich allgyfeirio at ein partner fwyaf addas, er mwyn ymdrin â'ch pryderon yn gyflym ac mewn modd boddhaol. Cysylltwch â ni drwy ebost, neges, trydar, neu drwy alw.

#brexitwhatnext

Yn ystod cam cyntaf ein ymgynghoriad cymunedol, gwnaethom wahodd siaradwyr arbennig o nifer o sefydliadau cymdeithas sifil, yn ogystal â chynrychiolwyr o lywodraeth Cymru a phob prif blaid wleidyddol Cymru, i gyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru. Recordiwyd y digwyddiadau ac rydym wedi rhoi’r darlithoedd ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #brexitwhatnext

Tîm ein prosiect

Ymunodd y Fforwm Cymdeithas Cifil Cymru ar Brexit gyda ni ar gyfer y prosiect hwn. Maent wedi eu lleoli yng nghanolfan llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae proffilau aelodau’r tîm wedi’u rhestru isod:

Rhian Davies, CEO, Disability Wales
Rhian Davies

CEO, Disability Wales

Charles Whitmore

Wales Civil Society Forum on Brexit

Miranda Evans

Policy and Programmes Manager - DW

10
siaradwyr
3
dinasoedd
544
milltiroedd a teithiwyd
100
cyfranogwyr

Y prif gasgliadau

Dyma’r prif bynciau daethom ar eu traws wrth drafod Brexit gyda’n haelodau ledled Cymru. Mae ein hadnoddau’n adlewyrchu’r themâu a casglwyd, a’u pwrpas yw i fynd i’r afael â’r pryderon daethom ar eu traws yn ystod ein gwaith allgymorth.

GOFAL IECHYD

Mae aelodau wedi dangos pryder am gynnydd posibl mewn costau gofal iechyd o ganlyniad i Brexit, neu am ddiffyg meddyginiaethau addas yn y dyfodol, wedi i ni adael y Farchnad Sengl. Rydym wedi ateb y cwestiynau hynny!

LLES

Mae nifer o’n haelodau wedi crybwyll pryderon am y cymorth maent yn eu derbyn er mwyn cadw’r hawl i fyw’n annibynnol ar ôl y cyfnod pontio. Mae eraill yn poeni, oherwydd eu bod nhw’n ddinasyddion yr UE, na fyddent yn gymwys am fuddiannau bellach. Rydym wedi ymchwilio i’r mater hwn, ac wedi rhoi peth atebion i chi.

DINASYDDIAETH

Beth fydd yn digwydd i fy nheulu sy’n byw yn yr UE? Yw fy mhensiwn yn ddiogel os fyddaf yn dychwelyd i’r DU? Gwyliwch ein clipiau fideo i wybod mwy am y cwestiynau hyn, a sawl cwestiwn arall yn ymwneud â dinasyddiaeth wedi Brexit.

HAWLIAU DYNOL

Gan mai’r UE sydd wedi bod ynghlwm â’r llwyddiannau a’r cynnydd o ran Hawliau Dynol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym i gyd yn poeni am gyflwr y tirlun cyfreithiol wedi i ni adael y confensiynau cyfreithiol sy’n diogelu ein hawliau dynol. Gwahoddwyd arbenigwyr mwyaf blaenllaw y DU i esbonio hyn i ni.

MASNACH

Un o broblemau mwyaf gadael yr UE yw ein bod yn ymadael ag un o asedau economaidd fwyaf Ewrop, y Farchnad Sengl. Rydym wedi ystyried y senarios mwyaf tebygol, ac wedi awgrymu ffyrdd y gall ein haelodau ymdopi gyda’r ansicrwydd sydd i ddod.

YMFUDO

Ydych chi’n ddinesydd yr UE sydd am symud i’r DU? Neu’n Brydeinwr sy’n byw dramor yn yr UE ar hyn o bryd? Mae newid ar droed, ac mae yna gamau i’w cymryd er mwyn i chi gael parhau i fyw yn eich cartref. Rydym wedi casglu rhai adnoddau at ei gilydd er mwyn eich helpu i wneud hyn.

BLOG BREXIT

Yma, cewch weld gyfathrebu a barn ein tîm, ysgrifennwyr gwadd, a chasgliad o eitemau o’r prif newyddion ynghylch Brexit, wrth iddynt drafod ei effaith ar bobl anabl.

cysylltwch

Oes gennych unrhyw gwestiynau am Brexit? oes angen cymorth pellach arnoch neu adnoddau er mwyn deall mwy am beth sydd i ddod i brydain wedi Brexit? Cysylltwch, a gallwn eich helpu.

Brexit Forum

[email protected]

Disability Wales

[email protected]

Disability Wales

029 20887325